Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau a seminarau ymchwil gwahoddedig gan yr Athro Ralph Fevre a’r Athro Sin Yi Cheung ym Mhrifysgol Tsinghua a’r Sefydliad Cymdeithaseg yn Academi Gwyddor Gymdeithasol Tsieineaidd ym mis Mehefin 2017. Ym mis Medi yr un flwyddyn, traddododd yr Athro Susan Baker a Paul Chaney seminarau, cyflwyniadau a gweithdai hyfforddi gwahoddedig yn y Sefydliad Cymdeithaseg yn CASS, Sefydliad Datblygiad Cymdeithasol, Academi Ymchwil Macro-economaidd Tsieineaidd; a’r Ysgol Rheolaeth Gyhoeddus, Prifysgol Tsinghua. Roedd y gweithgareddau hyn yn gyfle gwych ar gyfer deialog a chyfnewid deallusol rhwng gwyddonwyr cymdeithasol Caerdydd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar yn rhai o’r sefydliadau ymchwil a phrifysgolion mwyaf mawreddog yn Tsieina.